UKC

Arena Hanesyddol-Ieithyddol Chwareli Dinorwig Article

© James Rushforth

Wrth i ddigwyddiad i ddathlu 150 mlwyddiant Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru alw am waharddiad ar enwau dringfeydd Saesneg, mae Eben Myrddin Muse yn trafod tensiynau hanesyddol a pharhaus rhwng pobl leol a dringwyr yn Chwareli Dinorwig.


Mae Eryri yn focs matsus diwylliannol. Gall ymwelwyr mewn unrhyw ardal wledig achosi tensiwn – mae hyn yn wir ym mhopman, ond mae'n broblem a deimlwyd yn fwy brwd ers y pandemig, yn enwedig mewn parciau cenedlaethol lle mae'r argyfwng tai yn cael ei waethygu gan berchenogaeth ail gartrefi (er bod y chwareli eu torri'n daclus allan o'r parc ei hun). Yng Ngogledd Orllewin Cymru, mae'r iaith Gymraeg wastad wedi golygu bod mwy fyth yn y fantol gyda'r materion hyn – yn gymharol ddiweddar bu mudiad gerila yn llosgi tai haf yng Ngwynedd yn ystod ymgyrch llosgi Meibion ​​Glyndwr; mae anniddigrwydd yn parhau yn Eryri.

As ever an atmospheric day in the slate quarries   © James Rushforth
As ever an atmospheric day in the slate quarries
© James Rushforth, Sep 2014

Yr anniddigrwydd yma sydd wrth fon digwyddiad, sydd yn coffhau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, ond gyda nod eilradd o fynnu gwarchodaeth dros enwau lleoedd Cymraeg y chwarel, ac i gael yr enwau dringo 'newydd' wedi'u gwahardd (rhywsut) gan y cyngor. Dringwyr yw'r bobl yr honnir iddynt ddileu a dadleoli'r enwau hyn, ac mae'r stori wedi'i mabwysiadu gan sawl safle newyddion.   

Mae'r chwareli llechi yn annwyl i ni oherwydd y steil dechnegol o ddringol, ydi, ond hefyd oherwydd y teimlad o drochi mewn hanes y lle wrth ymweld. Mae'r profiad o ddringo creigiau yn chwareli llechi Llanberis yn unigryw, ac yn hynod ystyrlon i lawer ohonom. Mae'n boenus braidd, felly, i gael ein cyhuddo o ddileu hanes y lle.  

Yn ddiweddar fe gynhyrchodd y digrifwr lleol Tudur Owen segment mewn cyfres deledu am enwau lleoedd Cymraeg. Mae'n amlwg ei fod ganddo berthynas ddwfn â Chwareli Llechi Dinorwig; bu ei daid yn gweithio yn y chwarel, ac mae ei ymson (isod) yn cyfleu dicter ffyrnig at enwau cyfoes, "newydd", a roewyd gan ddringwyr ar gyfer lefelau a chlogwyni'r chwarel. Teimla'n amlwg fod yr enwau Cymraeg hŷn yn cyfleu hanes mwy ystyrlon a chyfoethog – enwau'r ffermydd a ddiflanodd wrth i'r llechi gael ei dynnu oddi tanynt, enwau'n ymwneud â pherchnogion chwareli, gweithwyr, a defnydd y tir yn y gorffennol. Mewn un gymhariaeth, mae'n tynnu sylw at y ffaith mai'r traddodiad syml mewn 'diwylliant dringo' yw i'r esgynnwr cyntaf enwi dringfeydd, fel rhyw fath o ddefod goncwest, ac mae hynny'n wir yn y bon. Ponc Penrhydd yn dod yn 'Looning the Tube Level', Ponc Teiliwr (oriel y teiliwr) i 'G'day arete' ac ati.  

Pete Robins on The Very Big and The Very Small 8b.  © Mark Reeves
Pete Robins on The Very Big and The Very Small 8b.
© Mark Reeves

Ni allwn wadu, fel cymuned, fod dringwyr wedi rhoi enwau newydd i'r lleoedd hyn. Enwau a basiwyd ar lafar cyn ei gofnodi yn y 'new routes book', mewn arweinlyfr, ac yna ar wefan (y wefan hon). Llenwi bwlch yn ein gwybodaeth ein ni. Mae'r enwau hyn bellach wedi'u trosglwyddo ers cenedlaethau. I drigolion lleol fel Tudur, maen nhw'n teimlo fel gorthrwm.

A yw hyn yn adlewyrchu agweddau cyffredinol yn y gymuned ddringo? Mae rhai yn bendant yn diystyru'r Gymraeg fel 'curiosity', crair, neu wastraff arian cyhoeddus. Pan gyhoeddodd UKC a erthygl ddwyieithog am y tro cyntaf, roedd rhai o'r sylwadau yn weddol syfrdanol – am yr hyn oedd i bob pwrpas yn ddewis ychwanegol (am ddim). Anfonodd un person e-bost i ofyn a allent greu gosodiad i sircrhau na fyddai byth yn destun cynnwys Cymraeg eto (nid oedd ymateb o'r fath i gyhoeddiad blaenorol ddwyieithog Ffrangeg...). Nid dyma agwedd y mwyafrif ond does dim gwadu ei bresenoldeb. 

Rhai o'r enwau croes yn Chwarel Dinorwig (Ffynhonnell - Daily Post).

A beth am yr arloeswyr cynnar? Dwi'n cofio darllen eu bod wedi neidio dros y ffensys i archwilio'r lle y diwrnod ar ôl i'r chwarel gau, a phwy all eu beio? Yn nhermau campau athletaidd, mae llechi wedi bod ar flaen y gad o ran yr hyn sy'n bosibl ar graig – rhyfeddod daearegol o arwyddocad rhyngwladol a arweiniodd at gyfnod eiconig yn rhannau olaf yr 20fed ganrif. Yn ddiddiwedd o ddylanwadol gyda chast unigryw o gymeriadau; cyfnod The Quarryman, Comes the Dervish, a 'designer danger'.

Serch hynny - efallai nad oedd yr arloeswyr hyn erioed wedi deall nac yn wynebu'r cyd-destun y cynhaliwyd eu harchwiliadau ynddo yn llawn - yr enghraifft amlycaf o hyn yw enwau llwybrau. Roedd (mae?) John Readhead yn arlunydd ac yn joci sioc - roedd wrth ei fodd yn herio dringwyr a'r cyhoedd fel ei gilydd wrth roi enwau budr, rhywiol ar ddringfeydd. Rwy'n siŵr ei fod wrth ei fodd ein bod yn dal i siarad am ei enwau llwybrau yn awr, ond i lawer o bobl leol yn enwedig mae'r dewisiadau enwau hynny yn bradychu diystyrwch dwfn, neu anwybodaeth o arwyddocâd lleol y chwareli hyn. Mae'n fater sydd o bwys i bobl, ac rydym yn ei weld yn cael ei adlewyrchu yn y rali hon ac yn yr elyniaeth y mae llawer o ddringwyr yn ei brofi.

The Caban, Dinorwig Quarries. Slate workers' abandoned clothing.   © Fidget
The Caban, Dinorwig Quarries. Slate workers' abandoned clothing.
© Fidget, Feb 2011

"Yn Ninorwig mae gennych chi enwau gwirion o ffilmiau ffantasi, fel Mordor. Mae llawer yn sarhaus ac yn anfoesol, mae gan rai arwyddocâd rhywiol. Maen nhw'n sarhaus ac yn dangos diffyg parch at deuluoedd y bobl oedd yn gweithio yno." - Eilian Williams, trefnydd digwyddiad dydd Sul.

Bu farw dros fil o ddynion yno ac y mae'r atgof gwerin am hynny yn barhaus – poenus a ffiaidd i lawer yw gweld y mannau lle'r oedd anwyliaid yn llafurio fe'i lladdwyd wedi'i disgrifio mewn termau aflan mewn arweinlyfrau a gwefannau. Rydw i wedi ei glywed o'i gymharu â phaentio pidyn mawr coch ar gofeb rhyfel neu feddrod teuluol.

Nid yw'n dechrau nac yn gorffen gyda Redhead, dim ond mai dyma'r enghraifft a ddyfynnir amlaf - y niwed canfyddedig mwyaf yw disodli enwau lleoedd gwreiddiol o fewn y chwarel trwy osod enwau newydd (mewn rhai achosion, yn fwriadol bryfoclyd) gan ddringwyr - canlyniad diffyg ymdrech neu anwybodaeth sylfaenol. Yn y ddrama hon cawn ein castio fel dihirod, wedi'n dadleoli'n sarhaus rhag y psyche lleol a hanes y trawma sydd yng nghraidd y dirwedd ôl-ddiwydiannol a phobl Eryri.  

Rhai o'r sylwadau yn ymateb i straeon newyddion am Wenwau Cymraeg yn bod dadleoli yn y chwareli.

Y Risgiau 

Pam ddylem ni fel dringwyr roi hid? Does dim ots beth mae'n cael ei alw'n swyddogol nawr, mae pobl yn dal i'w alw'n Wyddfa. Mae llawer yn gweld Bannau Brycheiniog yn sillaf yn rhy bell. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd yn gostwng, ac ni fydd hyn yn peri pryder i rai. Fe allwn i wneud y ddadl yma fod goroesiad a dyfalbarhad iaith yn ein cyfoethogi ni i gyd – ond gadewch i ni gadw hynny ar gyfer erthygl arall ar safle arall.

Digon yw dweud bod y rhai sydd wedi cynhyrfu am hyn wedi cynhyrfu oherwydd patrwm y maent yn ei weld fel rhan o fygythiad dirfodol a'r sniffian allan o ran hanfodol o'u hymdeimlad o hunan (hunaniaeth yn Gymraeg). Mae Saesneg yn hollbresennol ym Mhrydain heddiw ac mae ein hiaith leiafrifol yn brwydro i aros i fynd. Darparu lle i enwau lleoedd Cymraeg, boed yn orielau o'r chwarel neu'n enw ar ein mynyddoedd uchaf, yw'r peth iawn i'w wneud.

Ar wahan i hynny, efallai mai apêl fwy defnyddiol yw y dylem boeni oherwydd bod perygl i hyn ferwi drosodd a bygwth ein mynediad yn y chwareli llechi ac mewn mannau eraill; rydw i wedi gweld galwadau i'r awdurdodau fynd i'r afael â dringwyr sy'n mynd i mewn i'r chwareli i ddileu enwau newydd 'twyllodrus'. Yn y gorffennol rydym wedi gweld sloganau cenedlaetholgar yn cael eu taflu ar glogwyni gwerthfawr fel y glogfaen ar ochr y ffordd yn Nant Peris a Llech Drws y Coed yn datgan 'Nid yw Cymru ar werth', sef hen slogan cenedlaetholgar. 

Wales is Not 4 Sale/Llun Cymru ddim ar werth graffiti.  © Luca Celano
Wales is Not 4 Sale/Llun Cymru ddim ar werth graffiti.
© Luca Celano

Mae mynediad wastad wedi bod yn frebus yn y chwareli lle na roddwyd caniatâd swyddogol yn y lle cyntaf, ac rydym wedi goroesi bygythiadau i gael gwared â bolltau a thensiynau cynyddol gyda'r tirfeddiannwr yn y gorffennol. Gallwch fetio y bydd y tirfeddiannwr First Hydro yn talu sylw i hyn.

Yr Eryr yn yr Ystafell

Ar y llaw arall, gadewch i ni droi'r chwyddwydyr at drefnwyr rali'r penwythnos hwn. Ydyn nhw'n gynrychioliadol o siaradwyr Cymraeg rhesymol? Rwy'n sicr yn gobeithio nad ydynt. Mae tudalen facebook Eryri Wen sy'n trefnu'r digwyddiad yn cynnwys y disgrifiad syml "amdanom ni": "Eryri uniaith Gymraeg". Mae'r enw ei hun yn creu aniddigrwydd yn fy ystumog i (mae eryr gwyn wedi bod yn symbol o genedlaetholdeb Cymreig ers tro byd, gysylltiedig â'r grŵp ffug-barafilwrol Byddin Cymru Rydd, ac yn gyfeiriad cyfoes at ranbarth hanesyddol Eryri, y mae'r deellir yn gyffredinol bellach bod cysylltiad ag eryrod (eryr) yn gamgymeriad). Gall y dicter y mae llawer yn ei deimlo am y pwysau ar y Gymraeg ffrwydro a dangos ar ffurf agweddau hyll a rhethreg ymrannol. Fel Cymry Cymraeg rhaid i ni beidio â chaniatáu i nodau blaengar mudiad yr iaith Gymraeg gael eu cyfethol ar drywydd ethno-genedlaetholdeb hyll.

I'r rhai ohonom sy'n pontio'r bydoedd hyn – o Gymreictod a dringo – mae gwylio hwn yn datblygu yn anhygoel o dorcalonnus. Mae codi llais amddiffyn y dreftadaeth ddringo sydd wedi datblygu bellach yn y chwareli ers bron i 60 mlynedd, yr ydw i'n teimlo'n rhan ohoni yn ymddangos i rai fel dyhuddwr at ddylanwad holl-ddidol yr iaith Saesneg.

Byddai ymuno â brigâd "Eryri Wen" a pheintio pob dringwr fel dinistriwr di-hid yr iaith, ac i eirioli dros wahardd pobl rhag ein hetifeddiaeth ni, yn teimlo i fi fel gwrththesis o unrhyw beth rydw i erioed wedi ymgyrchu drosto neu ddyheu am fel eiriolwr gydol oes dros y Gymraeg. Yr hyn dwi'n cofio ei fynnu oedd yr hawl i fyw bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg – hynny yw, gofyn am wasanaethau, cyfryngau, a gofod y gallai'r iaith ffynnu ynddo. 

Mae'r Cymreictod yr wyf yn unieuthu gyda ac yn ei ddyheu am yn benagored, yn rhyngwladol, ac ymhell o fod yn wyn yn unig! Mae'n ymwneud â gwybod bod ieithoedd yn perthyn i bob un ohonom – fel ased diwylliannol unigryw, hardd, byw a chyfrwng bywyd. Mae Cymru, ac mae wedi bod ers amser maith, yn genedl ddwyieithog – nid oes unrhyw ffordd ymlaen lle mae'na Eryri uniaeth yn un yr hoffwn fyw ynddi. Mae'r Gymraeg yn deilwng ar ei thraed ei hun, ac mae rhan ohonof i'n digio ei bod yn cael ei thaflu i arena ieithyddol newydd yn y chwareli llechi.

Mae gorffennol Eryri (a gorffennol Cymru) yn gymhleth ac yn llawn trawma hanesyddol – ond pan dwi'n gweld pobl sy'n honni eu bod yn eiriolwyr dros yr iaith yn apelio at awdurdodau i'n cadw allan o'n treftadaeth ddiwydiannol ein hunain trwy rym cau tir, mae'n gwneud i'm mhiso i ferwi. Roedd amgáu tiroedd yn rhan o drawma gwreiddiol y bryniau hyn wrth i'r arglwydd daflu bythynwyr allan a dechrau echdynnu'r llechi gyda'u harian caethweisiaeth. Rydyn ni i gyd yn haeddu'r rhyddid i gael mynediad i'r chwareli hyn – ac nid yw dringwyr ar eu pen eu hunain wrth fod eu bodd yn treulio amser yno bellach. 

Wrth Edrych i'r Dyfodol

Felly sut ydym ni'n symud ymlaen? Gyda rhai pobl leol yn mynnu dileu enwau dringfeydd newydd a dringwyr yn amharod i ymrannu â thraddodiad cyfoethog ac amrywiol o enwi llwybrau? Yn achos Dinorwig mae ffordd glir ymlaen: mae iaith yn esblygu, gan ddiwallu anghenion y rhai sy'n ei defnyddio. Yn achos Ponc Penrhydd, mae Ponc Penrhydd yn disgrifio haen y chwarel – nodwedd a oedd o bwys a defnyddioldeb i'r chwarelwyr gynt. Mae 'Looning the Tube' ar y llaw arall yn disgrifio llinell o wendid, a gerfiwyd gan y chwarelwr, do, ond a ddehonglwyd ac a gwblhawyd gan Cliff Phillips (rope solo) yn 1984. Mae'r ddau enw wedi'u cynllunio i gyfathrebu rhywbeth hollol wahanol - mae'r tiwb yn bennaf wedi pydru ac wedi cwympo i'r pwll erbyn hyn, ond mae'r enw yn dwyn i gof brofiad yr esgynnwr cyntaf - mae'n ychwanegol at yr hanes a oedd yno eisoes.

Josh Douglas on Looning the Tube.  © Mark Reeves
Josh Douglas on Looning the Tube.
© Mark Reeves

Wnaeth arwriaeth Messner ar Everest ddim dileu un Tenzing a Hillary, ac os gwnawn ni'n iawn, gallwn ni ddringo Looning the Tube, ar Bonc Penrhydd. Enwodd chwarelwyr y bonc, a dringwyr a enwodd y ddringfa. Yn yr un modd, fe glywais i, o blith y clogwyni a chlogwyni niferus yn Eryri, fod amryw wedi'u henwi'n wreiddiol yn 'graig y geifr' tra bod mwy o angen ar ddringwyr i'w gwahaniaethu, ac felly, wedi enwi un ohonynt yn Craig Ddu i well wahaniaethu rhyngddynt. Yn y naill achos a'r llall, mae gan enwau ddefnyddioldeb ac addasiadau iaith i ddisgrifio'r hyn sydd fwyaf defnyddiol i'r rhai sy'n ei ddefnyddio.

Yn y Gymraeg ceir dwsin o eiriau od ar gyfer amrywiadau gwahanol o gaeau sy'n adlewyrchu eu naws a'u pwysigrwydd gweithredol i ffermwyr. Sawl gair sydd gennym am amrywiadau ar 'afaeliad llaw'? Nid oes gwrthdaro yma mewn gwirionedd, dim ond anwybodaeth, ar y ddwy ochr. Dywed pobl leol na fyddai wedi cymryd unrhyw ymdrech o gwbl i awduron arweinlyfrau estyn allan at haneswyr lleol i gael eglurhad neu gywiriad - mae hynny'n anodd gwadu. Mae awduron wedi ymatal rhag cywiro, yn debygol wrth ofni achosi dryswch gyda rhifynnau blaenorol. 

Mae pethau'n newid serch hynny. Ar gyfer North Wales Bouldering Vol I (Mountain Crags) gwnaeth Simon Panton y penderfyniad i fabwysiadu enwau lleoedd Cymraeg lle'r oeddent yn hysbys ac wedi'u dogfennu hyd yn oed lle'r oedd enwau 'newydd' presennol a phoblogaidd. Daeth Infinity Boulder yn Graig Cwm Glas, daeth Sheep Pen yn Gorlan, ac ati. Arhosodd enwau dringfeydd yr un fath oherwydd bod gwahaniaeth sylweddol rhwng dod ar draws rywbeth a pheidio â gwybod neu geisio darganfod a oedd ganddo enw eisoes yn erbyn dringo rhywbeth unigryw a newydd sy'n haeddu enw newydd. O'r herwydd, mae'r llyfr gorffenedig lle defnyddir llawer mwy o enwau Cymraeg yn teimlo fel darlun mwy ffyddlon o'r dirwedd – ar lefel sylfaenol, dyna yw pwrpas arweinlyfr. Mae'n gyhoeddiad hynod boblogaidd.

Alan James leading Pull My Daisy in the slate quarries  © Mark Reeves
Alan James leading Pull My Daisy in the slate quarries
© Mark Reeves

Mae Calum Muskett, awdur arweinlyfr lleol a dringwr heb ei ail yn ysgrifennu arweinlyfr newydd ar gyfer ardaloedd Dyffryn Peris, Y Lliwedd, a Chlogwyn Du'r Arddu ar hyn o bryd. Rhannodd ei feddyliau gyda mi ar arlliwiau testun arweinlyfrau a'r iaith Gymraeg: 

"Yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y disgrifiadau o'r llwybrau a'r delweddau topo yn gywir, mae'n bwysig siarad am yr amgylchedd lleol, boed hynny'n fflora a ffawna prin, neu'r eirdarddiad unigryw. Rwy'n teimlo mai fy nghyfrifoldeb i yw ymchwilio i enwau'r gwahanol nodweddion mynyddig, boed yn glogwyni, cymoedd, neu gribau, i wneud yn siŵr fod yr enwau hynny mor "gywir" ag y gellir o safbwynt hanesyddol, ond hefyd yn ieithyddol ac yn rhoi ffafriaeth i'r Gymraeg lle rhoddwyd ffafriaeth i gyfieithiadau yn y gorffennol. 

Mae wedi bod yn ddiddorol gweld y duedd ddiweddar o ddringfeydd newydd yn cael enwau Cymraeg a'r arweinlyfr hwn fydd y cyntaf i ddefnyddio Yr Wyddfa yn lle Snowdon, Dyffryn Peris yn lle Bwlch Llanberis, ac Y Lliwedd yn lle Lliwedd; gwahaniaethau cynnil i lawer o ddarllenwyr, ond rhan o symudiad i ffwrdd oddi wrth normaleiddio enwau lleoedd wedi'u cyfieithu neu enwau Saesneg sy'n disodli. Byddaf hefyd yn archwilio'r eirdarddiad, gan grybwyll y chwedl o'r 19eg ganrif sy'n cysylltu Rhita Gawr â'r Wyddfa ac o ble y daw llawer o enwau'r clogwyni. Mae wedi bod yn daith ac yn bleser gweithio ar y canllaw hwn a dal y zeitgeist dringo yn yr ardal anhygoel hon." 

I Calum mae'n amlwg fod iaith a hanes yr ardal yn rhan fawr iawn o'r stori y mae am ei rhannu gyda darllenwyr yr arweinlyfr newydd. Nid yw dringo a'r iaith Gymraeg yn anghydnaws nac yn rym dinistriol ar eu gilydd – mae fy mhrofiadau i a'm cyfoedion yn profi hyn, gyda llawer ohonynt wedi cerfio gyrfa yn y diwydiant awyr agored neu wedi dychwelyd i fyw i Eryri oherwydd atyniad y bywyd cymdeithasol, ac iach y mae dringo yn helpu i'w gefnogi. Y bygythiad mwyaf i'r iaith yn ei chadarnleoedd yw ymadawiad pobl ifanc i ddinasoedd sydd â mwy o fwynderau a rhagolygon swyddi – mae economi wledig yn gwarchod yn erbyn hyn, ac mae hamdden awyr agored yn rhan enfawr o'r economi wledig fodern, gan gyfarnnu cannoedd o filiynau o bunnoedd.  

Rwyf am ddychwelyd at y naratif for 'dringwyr i gyd yn siaradwyr Saesneg sydd yma i ddisodli a diystyru ein treftadaeth'. Dwi'n hynod anghyffurddus am y naratif yma oherwydd ei fod yn dileu pobl fel fi a fagwyd bron a bod yng nghysgod tomen lechen. Roedd gen i lun o'r run domen ar fy logo gwisg ysgol gynradd, treuliais lwmp o fy ieuenctid yn chwarae mewn band pres a ffurfiwyd i godi arian i weddwon ac amddifaid y rhai a laddwyd yn y chwareli. Fe ddefnyddion ni'r lechen fel teganau ac i adeiladu argaeau a chuddfannau. Dylanwadodd streic fawr y Penrhyn ar fy ngwleidyddiaeth bersonol, a fe dyfais i fyny yng nghanol segurdeb economaidd ôl-ddiwydiannol dyffryn llechi - fe ddylanwadodd hyn ar fy mywyd cyfan. Ac eto dwi hefyd yn ddringwr gant y cant, ac mae llawer o rai eraill fel fi.

Caban Dinorwig  © osh
Caban Dinorwig
© osh, Sep 2011

Mae rhai ohonyn nhw hyd yn oed yn creu eu dringfeydd newydd eu hunain ac yn eu henwi yn Gymraeg! Mae dringwyr fel Zoe Wood ac Osian Parry yn werthadwy, yn ysbrydoledig, ac yn ceisio gwneud bywoliaeth yn y gofod hwn – ymddangosodd Zoe a Lewis Perrin hyd yn oed yn y ffilm ddringo 'Adra' yn ddiweddar, oedd yn ceisio cydnabod presenoldeb byw yr iaith a'i siaradwyr. ymhlith bryniau a chlogwyni Eryri. Ni ddylem ychwaith anwybyddu na dileu'r arloeswyr Cymraeg eu hiaith a fu'n cymryd camau breision ac fu'n mynnu eu lle yn y chwareli ar hyd y blynyddoedd; pobl fel Ian Lloyd-Jones (sy'n ddiflino, ac y mae ei fab bellach yn codi'r fantell). Mae hanes dringo'r chwareli llechi yn ychwanegol at yr hyn a ddaeth yn flaenorol – dyna sut mae hanes yn gweithio, mae'r stori'n datblygu ac amnewid, ac yn tyfu.  

Mae'n debyg mai'r pwynt yw hyn: a ydych chi'n Gymro/Cymraes Cymraeg sy'n credu bod pob ddringwr yn elyn echdynnol sy'n casáu'r Gymraeg, neu os ydych chi'n ddringwr sy'n meddwl nad oes ots os ydych chi'n ei alw'n Lake Awstralia neu Lyn Bochlwyd dwi'n eich gwahodd i feddwl eto, ymestyn ar draws y bwlch ychydig. Os ydym am dyfu hanes newydd y tu hwnt i'r chwareli llechi, yn Eryri, ac yng Nghymru, dylem ein cynnwys ni i gyd ynddo – ac mae hynny'n golygu cydnabod (a chywiro) camgymeriadau lle mae camgymeriadau wedi'u gwneud, a pheidio â cheisio dileu diwylliant ffyniannus o ddringo creigiau sy'n dod â llawenydd a boddhad i gymaint ohonom.  

Mewn un arall o fideos dirdynnol Tudur ar y pwnc, mae'n ceisio egluro arwyddocâd enw, ynghyd â'i gyd-gyflwynydd Lisa Jên Brown. 'Tudur' yw ei enw, meddai, yn ei lilt Môn, nid 'Tudor', a'i henw yw 'Lisa' (acen Bethesda y tro hwn), nid Eliza. Ni allent fod fel arall mewn gwirionedd - a dwi'n meddwl eu bod wedi taro'r hoelen ar ei phen. Mae enw yn dal grym, arwyddocâd, ysbrydoliaeth, a chysylltiad. Mae yn llawn mor wir am enwau dringfeydd sy'n ysbrydoli ac yn ein gwefreiddio, barddoniaeth bur ar wyneb y graig - ond mae hefyd yn wir am yr hen enwau, wedi eu trwytho â phrofiad, diwydiant, a bywydau pobl a fu'n buw amser maith yn ôl. Mae lle i'r ddau. 

UKC Articles and Gear Reviews by Eben Myrddin Muse




Great move, can we now expect articles about climbing in Leonidio to be presented in Greek and Sicily in Latin?

A couple of years ago, The Rose and Crown down the road was taken over and renamed The Hipster and Micro scooter. The regulars still call it the Rose and Crown.

21 Jun

The article is bilingual - you will find a link to lead you to your preferred language at the top (photo attached)

21 Jun

Erthygl ardderchog Eben. Ti di bod yn brysur iawn!! Mae’n pwyso a mesur y dadleuon cymhleth yn raenus dros ben.

If you can supply the relevant translations, I'd be happy to publish them!

21 Jun

The difference being that this website is called UKclimbing, and Wales is part of the UK, and Welsh is an official language in Wales, which is this article's subject. And if you click on the link at the top of the article, you can read it in Wales' other official language, English! Diolch am yr erthygl, Eben, nes i ei fwynhau e'n fawr, a fel dringwr a Chymro Cymraeg dwi'n cytuno gyda dy safbwynt. Gobeithio y bydd dilynwyr Eryri Wen yn ei ddarllen! Mae modd i ni gofio hanes gwreiddiol y chwareli, tra'n cydnabod dylanwad dringwyr arnyn nhw hefyd. / Thanks for the article Eben, I enjoyed it very much, and as a Welsh speaking climber, I agree with your point of view. I hope Eryri Wen followers will read it! It's possible to remember the original history of the quarries while recognising the influence that climbers have had on them too.

More Comments
Loading Notifications...
Facebook Twitter Copy Email